P-04-671 Cyfreithloni Cymorth i Farw
P-04-671 Cyfreithloni Cymorth i Farw
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Joshua Smith ar ôl casglu 154 Llofnod
Geiriad
y ddeiseb
Yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn Senedd y DU, rwyf wedi
ymchwilio rhywfaint i'r pwnc. Yn ôl fy ngwaith ymchwil, mae 82 y cant o'r cyhoedd
o'r farn y dylai meddyg, yn ôl pob tebyg neu yn sicr, gael cynorthwyo claf i
farw ar gais y claf os oes ganddo glefyd poenus na ellir ei wella. Ni all pobl
sydd â salwch angheuol farw ag urddas yn y DU, ac ar hyn o bryd, mae'n rhaid
iddynt fynd i Dignitas yn y Swistir neu dreulio ddiwedd eu hoes mewn poen, ac
yn fy marn i nid yw hynny'n deg. Rwyf yn galw am gyfreithloni cymorth i farw yn
achos y rhai sydd â salwch angheuol. Hyd yn oed os oes gan unigolyn dri mis i
fyw, mae hynny'n dri mis yn llai o boen a dioddefaint. I gloi, hoffwn ddyfynnu
Brittany Lauren Maynard, a ddarganfu fod ganddi diwmor ar yr ymennydd nad oedd
modd ei drin ac a ddewisodd ddod â'i bywyd i ben ag urddas yng nghlinig
Dignitas yn y Swistir. Gofynnaf i chi helpu i wireddu breuddwyd Brittany, fel
na fydd angen i bobl eraill ddioddef y fath boen. "I want to see a world
where everyone has access to death with dignity".
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
• Gorllewin
Abertawe
• Gorllewin
De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2016