P-04-669 Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru
P-04-669 Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Parry Lowarch Estate Agents
ar ôl casglu 29 Llofnod
Geiriad
y ddeiseb
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig bod pob landlord ac asiant
sy'n gosod tai wedi'i drwyddedu i allu gosod eiddo yng Nghymru. Mae gwerth i
hyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae'r cynllun a gyflwynwyd yn or-gymhleth ac yn
hynod gostus. Byddai ei gwneud yn anghyfreithlon i unigolion neu asiantaethau
osod eiddo, a hwythau heb fod yn aelodau o sefydliad cydnabyddedig h.y. ARLA,
NAEA, RICS neu â chysylltiadau â landlordiaid preifat, yn sicrhau bod y tenant
yn cael ei ddiogelu gan fod yr uchod oll â safonau a meini prawf y mae'n rhaid
i aelodau gadw atynt. Cefnogir hyn hefyd gan yr angen i gael yswiriant diogelu
arian cleientiaid a bod yn aelod o gynllun unioni annibynnol fel Yr Ombwdsmon
Eiddo, dyweder. Wedyn, ni fyddai angen unrhyw ymglymiad costus pellach gan
Lywodraeth Cymru.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
N/A
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2016