Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi)

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi)

Mae'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi), yn Fil Aelod Preifat a gyflwynwyd yn Senedd y DU gan Chris Heaton-Harris AS. Prif amcan polisi'r Bil yw annog arloesi cyfrifol mewn triniaeth feddygol.

 

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) (PDF, 186KB) ar 13 Ionawr 2016.

 

Cafodd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ei gyfeirio at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan y Pwyllgor Busnes ar 19 Ionawr 2016, gydag amserlen i adrodd erbyn 25 Chwefror 2016.

Gwnaed gwelliannau i'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 29 Ionawr 2016. Cafodd y cymalau perthnasol a oedd yn ymwneud â Chymru eu dileu o'r Bil. Fel y cyfryw, penderfynodd Llywodraeth Cymru na fyddai’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ofynnol mwyach (PDF, 154KB).

 

Ni wnaeth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/01/2016

Dogfennau