Agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd

Agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd

Ym mis Gorffennaf 2015, cytunodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i wneud gwaith i archwilio agenda Ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr Undeb Ewropeaidd. Dyma'r cylch gorchwyl:

  • Deall manylion agenda ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr UE, gan gynnwys yr effaith bosibl ar gymwyseddau datganoledig yng Nghymru.
  • Deall y broses y mae Llywodraeth y DU yn ymgymryd â hi o ran ei thrafodaethau ar ddiwygio yr UE a sut y mae, a sut y bydd, yn cynnwys y Gweinyddiaethau a Deddfwrfeydd Datganoledig yn hyn.
  • Deall yn well farn Sefydliadau'r UE ac Aelod-wladwriaethau eraill am agenda ddiwygio Llywodraeth y DU ar yr UE. 

Cam cyntaf y gwaith hwn i'r Pwyllgor oedd ymweliad â Brwsel ym mis Hydref 2015.  Yn ystod yr ymweliad hwn cyfarfu'r Pwyllgor ag ystod o swyddogion a gwleidyddion; gan gynnwys swyddogion o'r Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor Ewrop ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd o Gymru, Iwerddon a'r DU.

Yn dilyn hyn, rhoddodd aelodau'r Pwyllgor dystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar yr Undeb Ewropeaidd.  Gellir gweld y sesiwn hon ar: http://parliamentlive.tv/event/index/5f7645e8-26de-4302-9af8-8d8ece7aaff3?in=15:01:15&out=15:55:00

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2016

Dogfennau