P-04-664 Datblygwch Fferm Tynton yn Ganolfan Ymwelwyr a Gwybodaeth

P-04-664 Datblygwch Fferm Tynton yn Ganolfan Ymwelwyr a Gwybodaeth

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martyn Hooper ar ôl casglu 112 Llofnod

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod cyfraniad pwysig Dr Richard Price nid yn unig i'r Oes Oleuedig yn y ddeunawfed ganrif, ond hefyd i'r broses o greu'r byd modern yr ydym yn byw ynddo heddiw, a datblygu ei fan geni a chartref ei blentyndod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr lle gall pobl o bob cenedl ac oed ddarganfod sut mae ei gyfraniadau sylweddol i ddiwinyddiaeth, mathemateg ac athroniaeth wedi dylanwadu ar y byd modern.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Fferm Tynton yn Llangeinwyr, man geni Dr Richard Price a chartref ei blentyndod, ar werth. Wedi mynd â'i ben iddo, mae'r fferm bellach wedi cael ei hadfer mewn modd sensitif ac mae bron pob un o'r nodweddion gwreiddiol wedi cael eu cadw. Mae Cymdeithas Richard Price yn ymwybodol bod y tŷ yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd a chaiff hyn ei gadarnhau gan Lyfr Ymwelwyr y perchennog blaenorol a lofnodwyd gan ymwelwyr â'r fferm. Byddai lleoliad a tharddiad y fferm yn ei gwneud yn ganolfan ddysgu ddelfrydol lle gall pobl ddarganfod sut berson pwysig ydoedd ac y mae'n parhau i fod.  Mae hwn yn gyfle i brynu'r eiddo am bris y farchnad a helpu i ddathlu llwyddiannau cawr deallusol ac apostol rhyddid Cymru.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

• Ogwr

• Gorllewin De Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/01/2016