Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad un-tro i gynlluniau trafnidiaeth yng Nghaerdydd ar gyfer gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015. Edrychodd y Pwyllgor ar y broses o gynllunio ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd; adroddiadau am giwiau sylweddol a gorlenwi ar wasanaethau trên, gan gynnwys y rhesymau dros hyn a’i effaith; pa mor briodol ac effeithiol oedd y drafnidiaeth gyhoeddus a ddarparwyd ar gyfer y digwyddiadau’n fwy cyffredinol (er enghraifft gwasanaethau bysiau a thacsis a seilwaith); pa mor effeithiol oedd y systemau cyfathrebu mewn perthynas â’r digwyddiadau; unrhyw bryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd neu bryderon eraill a gododd wrth drefnu’r digwyddiadau hyn ac unrhyw wersi a ddysgwyd a fydd o gymorth wrth drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2015

Dogfennau