P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

P-04-653 Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod:

- Yn credu na all anghenion cymhleth anifeiliaid gwyllt gael eu bodloni'n ddigonol mewn amgylchedd syrcas;

- Yn nodi bod anifeiliaid gwyllt yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o fywyd mewn amgylchedd syrcas anaddas yng Nghymru;

- Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei gyflwyno yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.

 

 Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhagor o wybodaeth am waith RSPCA Cymru i roi terfyn ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar gael yma: http://politicalanimal.wales/wild-animals-circuses-wales/

Mae defnydd anffurfiol yn brawf o iaith fyw.

 

Prif ddeisebydd:  RSPCA Cymru

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:

 

Nifer y deisebwyr: 517 llofnod ar lein a 7,268 llofnod bapur o

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/10/2015