Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft - Y Pedwerydd Cynulliad

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft - Y Pedwerydd Cynulliad

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Trafod yr ymgynghoriad ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft (PDF, 1MB)

Fersiwn gryno o’r adroddiad

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad yngylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru drafft.

 

Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ystyried ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac argymhellodd y dylid cyflwyno Bil i’r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori ar Fil drafft newydd a fyddai’n ailddeddfu llawer o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ond gyda darpariaethau newydd a argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/10/2015

Ymgynghoriadau