P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif?
P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif?
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i weithio gyda Google ac Apple i ddatblygu fersiwn Gymraeg
o'u systemau gweithredu
Gwybodaeth
ychwanegol
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r Gymraeg wedi cael llawer
mwy o gynrychiolaeth mewn busnesau, ysgolion, prifysgolion, cynghorau lleol ac
awdurdodau cyhoeddus eraill; mae hyn wedi arwain at fwy o ddefnydd o'r Gymraeg
mewn gweithgareddau bob dydd o ran siaradwyr Cymraeg, ond mae angen adeiladu ar
y cynnydd hwn er mwyn sefydlogi a thyfu nifer y siaradwyr.
Fel hyn, gallai defnydd ffurfiol bob dydd o'r Gymraeg
gael ei weld fel llwyddiant ond mae'r defnydd anffurfiol bob dydd o'r Gymraeg
yn fwy o broblem. O ran twf dwfn mewn
iaith, ni chaiff gwybodaeth ei hannog drwy ddefnydd ffurfiol. Er mwyn ymdrin â'r mater hwn byddai'n ddoeth
rhoi yr un pwysau a chyflwyno yr un cytundebau ar Google ac Apple â'r hyn a
gyflwynwyd i Microsoft i ddatblygu gweithrediad Cymraeg o OS ac iOs android yn
y drefn honno.
Mae defnydd anffurfiol yn brawf o iaith fyw.
Prif
ddeisebydd: Merlyn Cooper
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf:
Nifer
y deisebwyr: 75 llofnod ar
lein
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2015