Ansawdd dŵr yng Nghymru

Ansawdd dŵr yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal ymchwiliad byr i ansawdd dŵr yng Nghymru. Cytunodd i:

  • Archwilio'r cynnydd o ran cyflawni'r rhwymedigaethau statudol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi;
  • Canfod pa ffynonellau presennol o lygredd sy'n peri pryder penodol;
  • Ystyried a oes camau digonol yn cael eu cymryd i leihau llygredd - nodi enghreifftiau o arfer da;
  • Ystyried effeithiolrwydd monitro a gorfodi.

 

Cytunodd nad oedd ansawdd dŵr yfed yn rhan o gwmpas yr ymchwiliad hwn.

 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan Sefydliad Gwy ac Wysg, RSPB Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwch Cymru'n Daclus.

 

Cymerodd dystiolaeth lafar gan amrywiaeth o randdeiliaid yn ei gyfarfod ar 10 Mehefin 2015. Mae manylion ar gael o dan y tab 'cyfarfodydd' uchod.

 

Ar ôl y cyfarfod, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Bwyd i ofyn am ragor o wybodaeth. Mae copi o'r llythyr i'w weld isod.

 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor drwy e-bostio SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru.

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2015

Dogfennau