Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?
Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?
Cynhaliodd Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i
sicrhau dyfodol ynni craffach i Gymru.
Cylch gorchwyl
Gan ddechrau o’r sail bod angen i Gymru leihau ei
allyriadau carbon ar frys os yw am gyfrannu at atal tymheredd cyfartalog y byd
rhag codi mwy na 2° Celsius, a’r angen i wella diogelwch ynni yng Nghymru,
byddwn yn anelu at gyrraedd barn ar:
- sut y gall Cymru sicrhau dyfodol ynni craffach, gan gynnwys cyflenwi
ynni carbon isel, rheoli’r galw am ynni a storio ynni, a hynny yn ddigon
cyflym i sicrhau’r gostyngiadau angenrheidiol mewn allyriadau;
- a all y fframwaith rheoleiddio a’r seilwaith presennol sicrhau’r
newidiadau hyn yn unol â’r cyflymder angenrheidiol;
- y camau y mae angen i ddinasyddion a’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r
trydydd sector eu cymryd; a’r
- cydbwysedd o ran cymhwysedd datganoledig yn y maes polisi hwn.
Dilyn yr ymchwiliad hwn
Gellir cael gwybodaeth am bob cyfarfod lle y cafodd yr
ymchwiliad hwn ei drafod o dan y tab ‘Cyfarfodydd’ uchod.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/07/2015
Dogfennau
- Llythyr at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 23 Tachwedd 2015 PDF 306 KB Gweld fel HTML (1) 151 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol - 16 RHagfyr 2015 PDF 82 KB Gweld fel HTML (2) 484 KB
- Adroddiad - 8 Mawrth 2016
- Ymateb Llywodraeth Cymru PDF 305 KB
Ymgynghoriadau
- Dyfodol Ynni Craffach i Gymru? (Wedi ei gyflawni)