P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg

Cyflwynir y ddeiseb hon i achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg.

Mae rhieni plant sy'n rhan o raglen Dechrau'n Deg, neu rieni sydd â phlant a fydd yn dod i'r oedran i gymryd rhan yn y rhaglen yn fuan wedi cael llythyrau sy'n nodi y bydd Dechrau'n Deg yn cael ei ddileu o'n cymuned ym mis Gorffennaf 2015.

Pam y dylai ein plant golli'r cyfle hwn? Mae Dechrau'n Deg yn gam pwysig ymlaen ar gyfer plant bach, i'w gosod ar y ris gyntaf yn eu haddysg ac yn barod i ddechrau yn yr ysgol. Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir i bobl sy'n byw mewn 'ardaloedd o amddifadedd', a dyna ydym ni. Eto, mae'r gwasanaeth yn cael ei gymryd oddi arnom. Mae hwn yn gam annoeth.

.

Prif ddeisebydd: Sophie-Kate Reacord 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 30 Mehefin 2015

Nifer y llofnod: 148 llofnod ar lein a 343 llofnod bapur. Cyfanswm = 491 llofnod

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015