P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18.
P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18.
Mae canser ceg y groth ar fy merch 18 oed, ac nid ydym am
i'r terfyn oedran ar gyfer profion ceg y groth olygu bod hyn yn digwydd i
ferched eraill. Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth
Cymru ostwng yr oedran ar gyfer y profion o 25 i 18.
Gwybodaeth
ychwanegol
Ym mis Mawrth 2014, a hithau'n ddim ond 18 oed, cafodd fy
merch Jessica Bradford ddiagnosis bod
canser ceg y groth arni. Oherwydd ei
hoedran, gwrthodwyd iddi gael prawf ceg y groth. Cafodd Jessica yr holl bigiadau rhag canser
ceg y groth yn yr ysgol. Mae Jessica yn
mynd i ysbyty canser Felindre yng Nghymru, lle cafodd ei thriniaeth - cemotherapi
bum gwaith, radiotherapi 30 gwaith, a radiotherapi mewnol dair gwaith. Oherwydd y driniaeth hon ni fydd Jessica byth
yn gallu cario ei phlant ei hun. Mae
Jessica a finnau wedi sefydlu tudalen ar Facebook i godi ymwybyddiaeth o dan yr
enw 'Jess Bradford's cervical cancer awareness'. Ers creu'r dudalen, rydym wedi
cyfarfod llawer o famau sydd wedi colli eu merched oherwydd canser ceg y groth.
Rydym hefyd yn casglu llofnodion ar Change.org yn deisebu
Llywodraeth y DU ar y mater hwn.
Casglwyd tua 96,000 o lofnodion hyd yn hyn.
.
Prif
ddeisebydd: Julie Bradford
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 30 Mehefin 2015
Nifer
y deisebwyr: 525 o lofnodion a gasglwyd ar wefan y Cynulliad . Mwy
na 100,000 o lofnodion wedi eu casglu ar wefan deiseb ar wahân am yr un mater
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015