P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

P-04-639 Achubwch Addysg Bellach ym Mhowys

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau i gyllid grŵp colegau NPTC a sicrhau bod dyfodol addysgol y myfyrwyr yn ddiogel.

Myfyrwyr Grŵp NPTC, Campws y Drenewydd, ydym ni. Roedd yr arian a gafodd grŵp colegau NPTC gan Lywodraeth Cymru 12% yn llai ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, sy'n cyfateb i oddeutu £4 miliwn. Mae hyn yn golygu ein bod wedi colli 50% o'n cyrsiau rhan amser a bod 80% o'r staff wedi colli eu swyddi. Mae'n golygu hefyd y bydd cyrsiau llawn amser 50 o oriau dysgu'n llai gan roi straen ar y myfyrwyr a'r staff. Mae dyfodol llawer o'n myfyrwyr yn dibynnu ar y coleg a, hebddo, byddai ychydig iawn o obaith a chyfleoedd fyddai gennym at y dyfodol. Byddai'n rhaid i fyfyrwyr hŷn dalu tua £400 i fynd i'r coleg, sy'n cynnig dyfodol da iddynt yn hytrach na'u bod yn ddibynnol ar y system fudd-daliadau. Bydd y toriadau hyn yn ei gwneud yn amhosibl i rai greu dyfodol iddynt eu hunain

 

Gwybodaeth ychwanegol

Ym Mhowys, mae cyfleoedd gwaith yn brin, a drwy fynd i'r coleg mae modd cael y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hagen i gael gwaith neu i gael lle mewn prifysgol. Nid yw cyrsiau Safon Uwch yn addas i bawb. Mae angen plymwyr, bricwyr, gofalwyr a phobl sy'n gallu trin gwallt etc. i sicrhau bod economi Canolbarth Cymru yn gynaliadwy ac y gall dyfu. Mae angen eich cymorth chi arnom i sicrhau'n dyfodol ni a'ch dyfodol chithau.

 

Prif ddeisebydd: NPTC Group Students

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 16 Mehefin

 

Nifer y deisebwyr: 1,673 llofnod ar lein

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2015