Cod Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr y Sector Tai Rhent Preifat
Cod Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr y Sector Tai Rhent Preifat
Ym
mis Mawrth 2015, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ynghylch y Cod Ymarfer i Landlordiaid ac Asiantwyr mewn
perthynas â darpariaethau a gyflwynwyd yn Rhan 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Rhoddwyd
Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Tai (Cymru) ar 17 Medi 2014. Mae Rhan 1 o’r Ddeddf
yn cynnwys darpariaethau sy’n cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer pobl
sy’n ymwneud â gosod a rheoli eiddo preswyl yng Nghymru.
Rhan
o amodau trwydded a roddir gan yr Awdurdod Trwyddedu yw i ddeiliad y drwydded
gadw at God Ymarfer a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru. Cynhaliodd Llywodraeth
Cymru yr ymgynghoriad i gael barn am gynnwys y Cod Ymarfer hwnnw.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/08/2015