Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Y Pedwerydd Cynulliad

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Y Pedwerydd Cynulliad

Yn dilyn cyhoeddi ar 28 Mai 2015 adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf, trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyflwyno gwasanaethau band eang y genhedlaeth nesaf.

 

Cyhoeddwyd Adroddiad y Pwyllgor (PDF 365KB) ym mis Tachwedd 2015 a gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru (PDF 149KB) ar 25 Ionawr 2016.

 

Argymhellodd y Pwyllgor yn ei Adroddiad Etifeddiaeth y dylai ei bwyllgor olynol ystyried clywed rhagor o dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a BT yn ystod hydref 2016 i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o ran cyflwyno contract Cyflymu Cymru.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/05/2015

Dogfennau