CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad uwchgadarnhaol:

Fe’i gwnaed ar: dyddiad heb ei nodi

Fe’i gosodwyd ar: dyddiad heb ei nodi

Yn dod i rym ar: 6 Ebrill 2016

 

Dyddiad cyfarfod y Pwyllgor: 1 Mehefin 2015

Status Adrodd: Adroddiad Rhinweddau

 

Craffu gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Bu’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn craffu ar y Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 (PDF, 102KB) sydd i’w gwneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 189KB) i’w hysbysu am fwriad y Pwyllgor i ystyried y Rheoliadau.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth ar y pwnc hwn. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Mai 2015.

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 327 KB) ar 7 Gorffennaf 2015. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 37 KB) i’w lythyr ym mis Gorffennaf 2015.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl ar y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Gorffennaf. Cymeradwywyd y Rheoliadau gan y Cynulliad.

 

Ym mis Hydref 2015, cafwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (llythyr [PDF, 80KB], atodiad (Saesneg yn unig) [PDF, 455KB]) am y newidiadau i’r Codau Ymarfer ynghylch Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau