P-04-634 Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn plant heb grefydd mewn ysgolion

P-04-634 Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn plant heb grefydd mewn ysgolion

 

Geiriad y ddeiseb:

 

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn am gefnogaeth y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ddarparu addysg na fydd yn gwahaniaethu yn erbyn plant nad ydynt yn dilyn crefydd gyfundrefnol yng Nghymru.

 Ysgogwyd y ddeiseb hon ar ôl profiad personol o anfon fy mhlentyn i ysgol gynradd gymunedol ragorol ym Mhontypridd. Mae gan yr ysgol athrawon anhygoel o gefnogol ac addysg o ansawdd uchel. Fodd bynnag, fel pob ysgol gynradd gymunedol yng Nghymru, mae hi wedi ei rhwymo'n gyfreithiol i gynnal sesiynau addoli ar y cyd, ac yn achlysurol, mae'n mynd y tu hwnt i'r rhwymedigaeth honno gan gynnwys addoli yn yr ystafell ddosbarth, yn y neuadd ginio ac ar dripiau ysgol (i leoedd fel Sw'r Creu, Noah's Ark Farm (gweler y ddeiseb bresennol dan ystyriaeth yma: http://www.senedd.assembly.wales/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=10925 ).

Yn ein hachos ni, does neb erioed wedi ymgynghori â'r rhieni i ofyn a ydym yn dymuno i'n plant gael eu dysgu am grefydd fel petai'n wirionedd, rhywbeth nad ydym yn ei ddymuno. Pan glywais am y trip i Noah's Ark Zoo Farm yn benodol, cysylltais â'r pennaeth a dywedodd fod gennyf y dewis i eithrio fy mhlentyn o weithgareddau ffurfiol yr ysgol, ond dydw i ddim eisiau niweidio na lleihau rôl fy merch yng nghymuned yr ysgol na gwahaniaethu'n gyffredinol yn ei herbyn ar sail crefydd.

 Ar ôl hynny, chwiliais am ysgol gyfagos y gallwn anfon fy merch iddi fel dewis amgen a gwelais nad oedd hynny'n bosibl, nid yn unig yn lleol ond trwy Gymru gyfan. Cefais sioc wirioneddol o ganfod bod y rhwymedigaeth gyfreithiol hon yn golygu nad oes un ysgol yn y wlad lle gall fy merch gymryd rhan gyfartal yng ngweithgareddau'r ysgol. Ar ôl siarad â nifer o rieni eraill yn yr ysgol, cefais ddigon o gefnogaeth gan bobl grefyddol a phobl heb grefydd i gyflwyno'r ddeiseb hon.

 Nid bwriad y deisebydd yw ymgyrchu dros ddod ag arferion crefyddol mewn ysgolion i ben ond gofyn i'r Gweinidog Addysg sicrhau addysg hyfyw, sydd ddim yn gwahaniaethu yn erbyn plant nad ydynt yn dilyn unrhyw grefydd gyfundrefnol.

.

 

Prif ddeisebydd: Richard Martin 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: TBC

Nifer y deisebwyr: 37 Ar lein

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/05/2015