P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol

P-04-624 Caniatáu i Ofalwyr Maeth Gofrestru gyda Mwy Nag Un Awdurdod Lleol

Caniatáu i ofalwyr maeth gofrestru gyda mwy nag un awdurdod lleol, a hynny er mwyn lleihau'r arian a werir yn ddiangen gan awdurdodau lleol ar asiantaethau maethu annibynnol.

 Mae rhai gofalwyr maeth nad ydynt yn cael eu defnyddio'n llawn gan eu hawdurdod lleol, ac mae ganddynt ystafelloedd gwag; hynny yw, mae'n bosibl eu bod wedi cofrestru i ofalu am ddau blentyn sy'n derbyn gofal, ond dim ond un plentyn sydd wedi'i leoli gyda hwy. Byddai'r cam hwn hyn yn eu galluogi i ddarparu lleoedd ar gyfer plant o awdurdodau lleol cyffiniol lle mae gormod o blant, o bosibl, yn cael eu cyflwyno i'r system gwasanaethau cymdeithasol at ddibenion derbyn gofal. Dyma'r sefyllfa lle ceir diffyg cyfatebiaeth o ran y gyfundrefn gyllido – os nad oes lle i blentyn gyda gofalwr maeth, bydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gwaith i asiantaeth fabwysiadu annibynnol.

Gwybodaeth ychwanegol

O ystyried adroddiad Williams, pan fydd cynghorau'n uno, bydd unrhyw ofalwyr maeth sydd â lle, ar gael i awdurdodau cyffiniol os byddant wedi cofrestru i wneud hynny. Byddai'r arbedion cychwynnol o weithredu system gofrestru ddeuol gydag awdurdodau lleol cyn gweithredu'r cynllun uno yn torri costau ymhellach, ac yn arwain at ofal sy'n gost-effeithiol ac sydd o ansawdd uchel i blant sy'n cael eu cyflwyno i'r y system gofal ac sy'n derbyn gofal. Er enghraifft, pe bai Blaenau Gwent a Thorfaen yn gweithredu system ddeuol o gofrestru gofalwyr maeth, byddai hynny'n dyblu nifer y gofalwyr maeth a fyddai ar gael i'w paru gyda phlentyn sy'n cael ei gyflwyno i'r system derbyn gofal. (Mae sgiliau, argaeledd, lleoliadau presennol, a'r gallu i gludo plentyn i'r ysgol i gyd yn rhan o'r broses baru). Felly, byddai hynny'n dileu'r angen i ddefnyddio asiantaethau maethu annibynnol, sydd yn llawer drutach

 

Prif ddeisebydd: John Watkins

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion: 159 llofnod

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015