Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Caiff Aelodau'r
Cynulliad (AC) ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw
fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd Gweinidogion
Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar
yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn
cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob
Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r
Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad
a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar
gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/04/2014