P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

P-04-626 Israddio Ffordd yr A487 drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd pob cam anghenrheidiol i ddechrau israddio ffordd yr A487 (dileu ei statws fel cefnffordd) ar ddarn penodol o'r ffordd sy'n teithio drwy gymunedau preswyl a threfol, sef Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth. Byddai gwneud hyn yn lleihau tagfeydd traffig ac yn gwella diogelwch y ffordd yn y cymunedau hyn ac yng nghanol y dref ac, o ganlyniad, byddai'n hwyluso manteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ehangach, a manteision o ran iechyd a lles, mewn ardal y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi bod angen buddsoddiad a chymorth sylweddol i'w hadfywio. 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Fforwm Cymunedol Penparcau, sef partneriaeth ddatblygu gymunedol sy'n sicrhau llais cryf i gymuned Penparcau, wrthi'n ymgyrchu i ddileu statws y darn o ffordd yr A487 sy'n teithio drwy Penparcau, Trefechan a chanol tref Aberystwyth fel cefnffordd. Byddai hyn yn sicrhau mwy o atebolrwydd lleol ac yn ei gwneud yn haws gwneud gwelliannau a gosod mesurau tawelu traffig, a fyddai'n hyrwyddo ffordd ac amgylchedd diogelach, ac yn annog gweithgareddau amgen fel beicio a cherdded.   Ar hyn o bryd, mae cefnffordd yr A487 yn teithio ar hyd y Stryd Fawr (Great Darkgate Street), sef prif stryd siopa canol tref Aberystwyth, sy'n rhan o'r Ardal Adfywio Strategol a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Sefydliad: Penparcau Community Forum

Prif ddeisebydd:  Dylan Jones

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

Nifer y llofnodion: 65 llofnod

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015