Rheoli sefyllfaoedd lle mae pobl yn gadael eu swyddi yn gynnar
Rheoli sefyllfaoedd lle mae pobl yn gadael eu swyddi yn gynnar
Yn
dilyn cyhoeddi Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Rheoli ymadawiadau
cynnar ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru ym mis Chwefror 2015, trafododd
y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a yw cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dangos eu bod yn sicrhau gwerth am
arian drwy ddefnyddio ymadawiadau cynnar i reoli neu leihau costau gweithlu fel
rhan o’r gwaith a wnaed ar heriau ariannol ar draws llywodraeth leol yng
Nghymru.
Helpodd y
dystiolaeth benodol a glywyd ar reoli ymadawiadau cynnar i lywio trafodaethau
ehangach y Pwyllgor yn ymwneud â’r heriau ariannol sy’n wynebu llywodraeth
leol. Trafododd y Pwyllgor y mater hwn ymhellach yn ystod ei waith craffu ar
gyfrifon 2014-15 yn nhymor yr hydref 2015.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2016