Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Materion Ewropeaidd
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Materion Ewropeaidd
Bu’r Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn dilyn hynt cynigion yr UE a oedd o ddiddordeb
i’r Pwyllgor, a cheisio dylanwadu arnynt, drwy ymgynghori ac ymgysylltu â
rhanddeiliaid.
Aethpwyd i’r
afael ag unrhyw faterion a ddaeth i’r amlwg a oedd yn berthnasol i Gymru drwy
gyfathrebu â’r sefydliadau Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Pwyllgor ystyried:
- Coflenni allweddol yr UE sydd yn rhan o broses
ddeddfwriaethol yr UE ar hyn o bryd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd;
- Meysydd gwaith newydd a nodir gan Raglen Waith 2015 y
Comisiwn Ewropeaidd ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor;
- Coflenni deddfwriaethol allweddol y cytunwyd arnynt yn barod ar
lefel yr Undeb Ewropeaidd sydd bellach yn y cam gweithredu cenedlaethol,
ac sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor.
Er bod gan yr
ymchwiliadau a restrir isod gysylltiadau amlwg â chynigion yr UE, roedd llawer
o waith y Pwyllgor (ar gael drwy hafan
y Pwyllgor) yn cynnwys materion ynghylch yr UE:
- Cynigion
arfaethedig i wahardd pysgodfeydd rhwydi drifft
- Cynhyrchu
organig a labelu cynhyrchion organig
- Grŵp
Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin
- Grŵp
Gorchwyl a Gorffen ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2015
Dogfennau