Cronfa Byw'n Annibynnol

Cronfa Byw'n Annibynnol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar 3 Hydref i geisio barn am y trefniadau posibl i helpu’r rhai oedd yn cael arian gan y Gronfa Byw’n Annibynnol yng Nghymru pan gaeodd Llywodraeth y DU y Gronfa ar 30 Mehefin 2015. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 23 Rhagfyr 2014. Cewch ragor o wybodaeth am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei gwefan. Cafodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyniad ffeithiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru am yr ymgynghoriad ar 21 Ionawr 2015.

 

Casglu tystiolaeth

Ystyriodd y Pwyllgor yr ymateb (Saesneg yn unig) ar y cyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 237 KB) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 21 Ionawr, cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 46 KB) (Saesneg yn unig) gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr 2015.

 

Llythyr y Pwyllgor

Ysgrifennodd (PDF, 239 KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 6 Chwefror 2015. Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF, 124 KB) i’w lythyr ym mis Mawrth 2015.

Math o fusnes: Arall

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2015

Dogfennau