P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd
P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd
Rydym am ofyn am newid i’r ddeddfwriaeth, er mwyn sicrhau
mai digwyddiadau trwyddedig yn unig a all drefnu arddangosiadau tân gwyllt a
defnyddio tân gwyllt. Rydym am i’r arfer o werthu tân gwyllt i’r cyhoedd yn
gyffredinol gael ei wahardd. Rydym am i’r cyhoedd yn gyffredinol gael eu
gwahardd rhag defnyddio tân gwyllt. Fel y gwyddom, ers dathliadau’r Mileniwm,
nid yw tân gwyllt bellach yn ddigwyddiad ‘unwaith y flwyddyn’ yn unig. Bob
blwyddyn, caiff tân gwyllt ei danio am fwy nag wythnos cyn 5 Tachwedd, ac yn
gyffredinol byddant yn parhau i danio’n achlysurol nes dathliadau’r Flwyddyn
Newydd, pan fyddant ar eu hanterth unwaith eto. Caiff plant ac oedolion eu
hanafu bob blwyddyn gan dân gwyllt a gaiff ei danio gan y cyhoedd yn gyffredinol.
Gall defnyddio tân gwyllt mewn lleoliad domestig, nad oes ynddo unrhyw gamau
rheoleiddio na pherson proffesiynol cymwys sy’n gyfrifol am y tân gwyllt, fod
yn angheuol, ac mae hynny wedi’i brofi. Yn ychwanegol, rhaid ystyried yr
anifeiliaid anwes diamddiffyn, druan. Yn ôl ffigurau’r RSPCA ar gyfer 2013, mae
oddeutu 22 miliwn o anifeiliaid anwes yn ein cartrefi yn y DU - ar gyfartaledd
oddeutu un ym mhob dau dŷ. Gall unrhyw berchennog anifail anwes ddeall yr
arswyd a achosir gan dân gwyllt mewn gardd cymdogion, lle nad oes rheolaeth.
Gall tân gwyllt fod yn rhywbeth gwych i edrych ymlaen ato. Ond fel y mae, mae
llawer o bobl yn ofni amser a oedd unwaith yn amser hwyliog a hapus o’r
flwyddyn. Helpwch ni a’n hanifeiliaid anwes i deimlo’n ddiogel unwaith eto.
Prif
ddeisebydd: Kathy Peart
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 110
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015