P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18%
P-04-613 Dylai Aelodau’r Cynulliad wrthod yr argymhelliad i gynyddu eu cyflogau 18%
Gyda phobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y sector
cyhoeddus yn cael toriadau i’w cyflogau mewn termau real, rwy’n annog Aelodau
Cynulliad i wrthod yr argymhellion i gynyddu eu cyflog 18%. Drwy dderbyn y
codiad cyflog hwn, neu unrhyw godiad cyflog, tra bod y mwyafrif llethol o
weithwyr y sector cyhoeddus yn wynebu toriadau i’w cyflogau a diswyddiadau,
byddai Aelodau’r Cynulliad yn cyfleu’r neges a ganlyn i’r bobl y maent yn eu
cynrychioli: "Rydym ni’n iawn, o leiaf, cadwch eich dwylo oddi ar fy mhentwr
arian i" (cyfieithiad o ran o’r gân Money gan Pink Floyd), gyda thoriadau
yn y sector cyhoeddus, rhewi cyflogau a diswyddiadau yn talu am eu
"pentwr" hwy. Hoffwn gynnig fod codiad cyflog Aelodau’r Cynulliad,
rhewi a thorri ar gyflogau yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd i weithwyr ym maes
addysg, y GIG, yr Heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol.
Prif
ddeisebydd: David Swain
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 12
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2015