Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru

Ymateb i Ddiwygio Lles yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad Llywodraeth Leol Rheoli Effaith Diwygiadau Lles ar Denantiaid Tai Cymdeithasol yng Nghymru ym mis Ionawr 2015.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad a oedd yn ystyried sut y mae’r newidiadau i Fudd-dal Tai a gyflwynwyd gan raglen diwygio lles Llywodraeth y DU yn effeithio ar awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru, a sut y maent yn ymdrin â’r heriau y maent yn eu hwynebu. Roedd Deddf Diwygio Lles 2012 yn dynodi newid mawr i’r ffordd y caiff budd-daliadau eu gweinyddu a’u dosbarthu a chaiff effaith sylweddol ar lawer o ddinasyddion. Ym mis Ebrill 2011, dechreuodd Llywodraeth y DU ar raglen ddiwygio a fydd yn arwain at gyflwyno’r Credyd Cynhwysol fesul cam rhwng mis Hydref 2013 a 2017. Un o brif nodweddion cynlluniau Llywodraeth y DU yw’r newidiadau i Fudd-dal Tai, i geisio lleihau gwariant blynyddol o oddeutu £2.3 biliwn. Bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd miliynau o aelwydydd ym Mhrydain Fawr yn cael llai o fudd-daliadau, gan olygu y bydd yn rhaid iddynt wneud dewisiadau anodd am y ffordd y maent yn defnyddio ac yn rheoli eu harian o ddydd i ddydd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n hawlio Budd-dal Tai ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu’n sylweddol.

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/03/2015

Dogfennau