Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016

Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Kirsty Williams AC. Roedd Kirsty Williams AC yn llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 11 Rhagfyr 2013 a chafodd ganiatâd gan y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Bil ar 5 Mawrth 2014. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi anfon y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 25 Tachwedd 2015, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ddiwygio enw byr y Bil. Yr hen enw oedd Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a’r enw newydd yw Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (gwelliant 35).

 

Gwybodaeth am y Bil

Y diben a nodir ar gyfer y Bil yw ei gwneud yn ofynnol i gyrff gwasanaethau iechyd wneud darpariaeth ar gyfer lefelau diogel o staff nyrsio, a sicrhau bod nyrsys yn cael eu lleoli mewn niferoedd digonol I wneud y canlynol—

  • galluogi gofal nyrsio diogel i gael ei ddarparu i gleifion bob amser;
  • gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff eraill; ac
  • cryfhau atebolrwydd ynglŷn a diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli’r gweithlu.

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil ar gael yn y Memorandwm Esboniadol (PDF, 980KB) sy’n cyd-fynd â’r Bil.

 

Cyfnod Cyfredol

Daeth Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 

Cyflwyno'r Bil: 1 Rhagfyr 2014

Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (PDF, 69KB), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 980KB)

 

Datganiad y Llywydd: 1 Rhagfyr 2014 (PDF, 114KB)

 

Adroddiadau’r Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil:

1 Rhagfyr 2014 (PDF, 47KB)

5 Mawrth 2015 (PDF, 59KB)

16 Gorffennaf 2015 (PDF, 102KB)

 

Datganiad yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): 3 Rhagfyr 2014

 

Geirfa’r Gyfraith - Bil Lefelau Diogel Staffio Nyrsio (Cymru) (PDF, 132KB)

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 399KB)

 

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn ystyried yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 22 Ionawr 2015.

 

Dyddiadau'r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

10 Rhagfyr 2014

Ystyried y dull gweithredu o ran Craffu Cyfnod 1 (preifat)

 

 

15 Ionawr 2015

Kirsty Williams AC, (yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil)

15 Ionawr 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 15 Ionawr 2015

29 Ionawr 2015

Sesiwn dystiolaeth lafar

29 Ionawr 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 29 Ionawr 2015

12 Chwefror 2015

Sesiwn dystiolaeth lafar

12 Chwefror 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 12 Chwefror 2015

25 Chwefror 2015

Sesiwn dystiolaeth lafar

25 Chwefror 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 25 Chwefror 2015

5 Mawrth 2015

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Sesiwn dystiolaeth lafar

5 Mawrth 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 5 Mawrth 2015

19 Mawrth 2015

Kirsty Williams AC, (yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil)

19 Mawrth 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 19 Mawrth 2015

25 Mawrth 2015

Trafod y materion allweddol (preifat)

 

 

23 Ebrill 2015

Trafod yr adroddiad drafft (preifat)

 

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  y  Bil ar y dyddiad canlynol:

Dyddiad ac Agenda

 

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

2 Chwefror 2015

 

Kirsty Williams AC, (yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil)

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

2 Chwefror 2015, Trawsgrifiad

Gweld cyfarfod 2 Chwefror 2015

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiad canlynol:

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

21 Ionawr 2015

Ystyriaeth gychwynnol o'r Bil (preifat)

 

Adroddiadau’r Pwyllgorau

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 1MB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF, 233KB)

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin 2015.

 

Penderfyniad Ariannol

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd 2015.

 

Derbyniodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr ohebiaeth a ganlyn ynghylch y penderfyniad ariannol:

 

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

Dechreuodd  Cyfnod 2 ar 4 Mehefin 2015.

 

Ar ddydd Iau 19 Tachwedd 2015, cytunodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai dyma fydd trefn trafodion Cyfnod 2: Adran 2; Atodlen 1; Adrannau 2 i 5; Adran 1; Teitl hir.

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfodydd y Pwyllgor ar ddydd Mercher 25 Tachwedd 2015.

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 25 Tachwedd 2015 (PDF, 156KB)

Grwpio Gwelliannau: 25 Tachwedd 2015 (PDF, 90KB)

Cofnodion cryno: 25 Tachwedd 2015

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 24 Mehefin 2015 (PDF, 75KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 1 Gorffennaf 2015 (PDF, 53 KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Medi 2015 f2 (PDF, 111 KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl Diben ac Effaith:11 Medi 2015 f2 (PDF, 159 KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Tachwedd 2015 f3 (PDF, 89 KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 18 Tachwedd 2015 (PDF, 65 KB)

Hysbysiadau cyfun ynghylch gwelliannau: 24 Mehefin 2015 - 19 Tachwedd 2015 (PDF, 151KB)

 

Gan fod yr Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau o 16 a 18 Tachwedd yn cynnwys nifer o welliannau i welliant 29 Mark Drakeford AC, cafodd copi o welliant 29 ei lunio, gyda’r llinellau wedi’u rhifo (PDF, 76KB), i hwyluso’r trafodion.

 

Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru): fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 69KB)

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Memorandwm Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF, 1MB)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 118KB)

 

Y Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror 2016.

 

Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3) (PDF, 75KB)

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Gwelliannau Cyfnod 3

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 3 Chwefror 2016 (PDF, 106KB)

Grwpio Gwelliannau: 3 Chwefror 2016 (PDF, 66KB)

 

Hysbysiadau ynghylch gwelliannau

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 8 Rhagfyr 2015 (PDF, 63KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 6 Ionawr 2016 (f2) (PDF, 85KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 11 Ionawr 2016 (f2) (PDF, 67KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 11 Ionawr 2016 (PDF, 132KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 12 Ionawr 2016 (f2) (PDF, 62KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 25 Ionawr 2016 (PDF, 60KB)

Llywodraeth Cymru - Tabl diben ac effaith: 25 Ionawr 2016 (PDF, 87KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 26 Ionawr 2016 (f2) (PDF, 57KB)

Hysbysiadau cyfun ynghylch gwelliannau: 8 Rhagfyr 2015 – 26 Ionawr 2016 (PDF, 106KB)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng nghyfnod 3 (PDF, 118KB)

 

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 10 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 72KB)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i pasiwyd (PDF, 115KB)

 

Bil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), fel y'i pasiwyd (Crown XML)

 

Ar ôl Cyfnod 4

Mae'r cyfnod o hysbysiad o bedair wythnos wedi dod i ben.

 

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol (PDF, 205KB), y Cwnsler Cyffredinol (PDF, 179KB) ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru (PDF, 273KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol [PDF, 165KB] ar 21 Mawrth 2016.

 

 

Gwybodaeth gyswllt

Mae'r bil wedi cael ei cyfeirio i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Clerc: Llinos Madeley

Rhif ffôn: 0300 200 6565

E-bost: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2014

Dogfennau

Ymgynghoriadau