Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol

Sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Meddygol

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi craffu yn gyfnodol ar waith Prif Swyddog Meddygol Cymru.

 

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn gyfrifol am:

  • arwain rhaglenni a pholisïau iechyd cyhoeddus, gan weithio ar draws holl adrannau polisi Llywodraeth Cymru a chydag amrywiaeth fawr o bartneriaid allanol, gyda’r nod o wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd;
  • gwella ansawdd gofal iechyd a’r canlyniadau i gleifion;
  • arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gyda rolau allweddol mewn rheoleiddio, addysg a hyfforddiant, safonau a pherfformiad meddygol
  • cynnal y cysylltiadau priodol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan weithio gyda sefydliadau, adrannau llywodraeth a Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU.

 

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Prif Swyddog Meddygol ar gael ar ei gwefan.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2014

Dogfennau