Cyllid Iechyd 2013-14

Cyllid Iechyd 2013-14

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad GIG Cymru: Trosolwg o Berfformiad Ariannol a Pherfformiad Gwasanaethau 2013-14 ym mis Hydref 2014.  Yn yr adroddiad hwn, mae asesiad manwl o sefyllfa ariannol GIG Cymru yn 2013-14.  Mae hefyd yn edrych ar berfformiad o ran darparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny y mae'r Adran wedi eu nodi'n flaenoriaeth.  Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried yr heriau ariannol a gwasanaeth ar gyfer GIG Cymru yn y dyfodol.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr ar sail materion a godwyd yn yr adroddiad, a thrafododd pam y bu i dri o sefydliadau'r GIG fethu â mantoli'r cyfrifon yn 2013-14, a pham nad yw'r targedau amseroedd aros a thargedau perfformiad allweddol eraill yn cael eu cyflawni.

 

Cafodd canfyddiadau'r Pwyllgor eu cynnwys yn ei adroddiad ar drefniadau llywodraethu a chyllid byrddau iechyd a gyhoeddwyd ar 29 Chwefror 2016.

 

Nododd y Pwyllgor fwriad Archwilydd Cyffredinol Cymru i adolygu effaith Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 yn ystod y Pumed Cynulliad ac argymhellodd y dylai’r Pwyllgor olynol ystyried unrhyw wersi sy’n codi o’i adroddiad, pan gaiff ei gyhoeddi.

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2014

Dogfennau