Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru - Y Pedwerydd Cynulliad
Llywodraethiant Bwrdd Iechyd GIG Cymru - Y Pedwerydd Cynulliad
Ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal
Iechyd Cymru gyhoeddi eu hadolygiad ar y cyd ym mis Mehefin 2013, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ymchwiliad i drefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’n cadw golwg ar y sefyllfa ers i adroddiad y Pwyllgor gael ei gyhoeddi ym
mis Rhagfyr 2013.
Mewn gwaith dilynol, cytunodd y Pwyllgor hefyd i edrych
ar drefniadau llywodraethu yn gyffredinol ym myrddau iechyd Cymru.
Mae adroddiad y
Pwyllgor, Materion ehangach sy’n deillio o
adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (a gyhoeddwyd ar 29 Chwefror 2016), yn cynnwys casgliadau'r Pwyllgor ynglŷn
â threfniadau llywodraethu byrddau iechyd, y sefyllfa bresennol ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r dystiolaeth a gasglodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol
Abertawe Bro Morgannwg, ynghyd â'i safbwyntiau am y sefyllfa ariannol ym maes
iechyd. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (PDF, 869KB) i’r adroddiad ym Mehefin 2016.
Yn ei Adroddiad
Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai ei olynydd drafod ymateb
Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ac y
dylai fonitro'r camau a gymerir ynghylch materion perthnasol yn gyson.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2014
Dogfennau
- Adroddiad i'r Materion ehangach sy’n deillio o adolygiad llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Chwefror 2016
- Ymateb gan Lywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Mehefin 2016
- Sylwadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr ymatebion i'r adroddiad - 30 Mehefin 2016 PDF 112 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 22 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig) PDF 591 KB
- Llythyr gan Lywodraeth Cymru - 10 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig) PDF 622 KB
- Llythyr gan Arolygiaeth Iechyd Cymru - 25 Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig) PDF 433 KB
- Adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 17 Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- Papur gan Arolygiaeth Iechyd Cymru - 30 Hydref 2015 (Saesneg yn unig) PDF 726 KB
- Adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar Ymyrraeth wedi'i Dargedu - 5 Mai 2015 (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Llywodraethu yn y GIG yng Nghymru: Archwilydd Cyffredinol Cymru Memorandwm - Ebrill 2015 PDF 977 KB
- Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru – 9 Rhagfyr 2014 (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau - Rhagfyr 2014 (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 10 Tachwedd 2014 (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru – 11 Gorffennaf 2014 (Saesneg yn Unig)
- Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru - 29 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig) PDF 173 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 13 Ebrill 2015 (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Gwaith monitro a wnaed gan Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pumed Cynulliad
- Llythyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 10 Hydref 2016 PDF 108 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - 23 Medi 2016 PDF 146 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd i Lywodraeth Cymru - 23 Medi 2016 PDF 149 KB