P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach yng Ngheredigion.

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach yng Ngheredigion.

 

Gwybodaeth ychwanegol

 

Bydd gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach, sy’n rhedeg rhwng Aberteifi a Cheinewydd, yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd diffyg cyllid. Roedd y gwasanaeth yn derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013.

Mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal hon, yn enwedig cerddwyr, ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mae’r gwasanaeth bws arfordirol wedi galluogi ymwelwyr i fynd i’r trefi a’r pentrefi ar hyd y llwybr.

Mae’r gwasanaeth bws yn dod â chwsmeriaid i fusnesau lleol.

Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru, gan ei fod yn eu galluogi i fwynhau teithiau cerdded llinellol.

Mae’n rhoi dewis arall i breswylwyr ac ymwelwyr, ar wahân i’r car.

Bydd rhai ardaloedd gwledig, yn arbennig, yn dioddef anghyfleustra os bydd y gwasanaeth bws yn dod i ben. Er enghraifft, mae Cwmtudu yn bentref poblogaidd ar y llwybr yr arfordir, hanner ffordd rhwng Ceinewydd a Llangrannog. Os bydd rhywun am gael bws o fan hyn, byddai’n rhaid iddo gerdded 4 milltir i’r llwybr bws agosaf. Byddai’n cael anhawster yn ffonio am dacsi gan nad oes blwch ffôn cyhoeddus, a gan fod y signal ffôn symudol yn wael iawn– Bydd gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach, sy’n rhedeg rhwng Aberteifi a Cheinewydd, yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd diffyg cyllid. Roedd y gwasanaeth yn derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013.

Mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal hon, yn enwedig cerddwyr, ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mae’r gwasanaeth bws arfordirol wedi galluogi ymwelwyr i fynd i’r trefi a’r pentrefi ar hyd y llwybr.

Mae’r gwasanaeth bws yn dod â chwsmeriaid i fusnesau lleol.

Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru, gan ei fod yn eu galluogi i fwynhau teithiau cerdded llinellol.

Mae’n rhoi dewis arall i breswylwyr ac ymwelwyr, ar wahân i’r car.

Bydd rhai ardaloedd gwledig, yn arbennig, yn dioddef anghyfleustra os bydd y gwasanaeth bws yn dod i ben. Er enghraifft, mae Cwmtudu yn bentref poblogaidd ar y llwybr yr arfordir, hanner ffordd rhwng Ceinewydd a Llangrannog. Os bydd rhywun am gael bws o fan hyn, byddai’n rhaid iddo gerdded 4 milltir i’r llwybr bws agosaf. Byddai’n cael anhawster yn ffonio am dacsi gan nad oes blwch ffôn cyhoeddus, a gan fod y signal ffôn symudol yn wael iawn

 

Prif ddeisebydd         Janet Richardson

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:   1,084 llofnod bapur a 121 a’r lein. Cyfanswm 1,205

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014