P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

P-04-599   Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo 

 

Manylion:

 

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

1. Cynnal adolygiad ac asesiad effaith trylwyr o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010, gan gyfeirio’n benodol at:

a. y posibilrwydd o effaith andwyol ar fusnesau twristiaeth hunan arlwyo newydd, wrth iddynt ddatblygu eu strategaethau marchnata yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o fasnachu;

b. effaith hollbwysig tywydd difrifol ar strategaethau marchnata ac felly cyfraddau cwsmeriaid mewn blwyddyn galendr benodol.

2. Ystyried canfyddiadau adolygiad o’r fath, yn benodol drwy roi cyfarwyddiadau i’r Swyddfa Brisio ar gyfer Ardrethu Annomestig yng Nghymru i fabwysiadu dull hyblyg sy’n ystyriol o fusnesau, gan gynnwys y posibilrwydd o hepgor y dreth gyngor yn ôl-weithredol, pan fo tystiolaeth glir o achos gwirioneddol.

3. Adolygu ei strategaeth marchnata twristiaeth cyffredinol, i sicrhau nad yw busnesau hunan arlwyo sydd wedi cofrestru â Croeso Cymru o dan anfantais yn sgil pwyslais anghyfartal ar dwristiaeth arfordirol a llety â gwasanaeth, megis mordeithio a gwestai.

Yn ogystal â meithrin hinsawdd gadarnhaol ar gyfer busnesau hunan arlwyo newydd, byddai hefyd yn trin busnesau yr un fath â rhai yn Lloegr a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig ac yn sicrhau na fydd y sector hunan arlwyo, sydd mor hanfodol i economi twristiaeth Cymru, ar y cyrion mwyach.

 

Prif ddeisebydd: Chris Harris 

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

 

Nifer y llofnodion:   27

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014