P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd
P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd
Rydym yn awyddus i wneud hyfforddiant ymwybyddiaeth o
anabledd yn orfodol ym mhob sefydliad sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid wyneb
yn wyneb, fel bod staff yn gwybod sut i helpu a chefnogi person anabl yn
hyderus, yn ddiogel, yn effeithiol ac mewn modd cyfartal. Mae Deddf
Cydraddoldeb 2010 yn nodi y dylai pob sefydliad wneud addasiadau rhesymol ar
gyfer person anabl, ond mae llawer o sefydliadau yn ansicr sut i wneud hyn yn
gywir ac yn rhesymol. Felly, hoffem weld cymdeithas sy’n fwy cynhwysol a bod
cyfraith yn cael ei rhoi ar waith fel bod pobl yn ymwybodol o anabledd, a bod
hyn yn gwella ansawdd profiadau cwsmeriaid anabl neu’n gwybod ar hyn o bryd sut
i gefnogi pobl anabl.
Dylai’r hyfforddiant neilltuo digon o amser i drafod pob elfen
anabledd ar wahân, sef iechyd meddwl, nam ar y golwg, dysgu, clyw ac iechyd
corfforol. Rwy’n argymell hyfforddiant hanner diwrnod ar gyfer pob elfen. Dylid
adnewyddu’r hyfforddiant hwn bob tair blynedd fel ei fod yn gyfredol.
Prif
ddeisebydd Visualise
Training and Consultancy
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 62
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014