P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Apel Cyngor Cymuned Cilmeri, ar ôl casglu 205 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Oherwydd pwysigrwydd cenedlaethol Cofeb y Tywysog Llywelyn, mae cymuned Cilmeri yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

• Godi arwyddion brown at y gofeb â delwedd o faes brwydr arnynt ar yr A483 ar y ddwy brif ffordd sy’n mynd i mewn i’r pentref er mwyn dynodi arwyddocâd hanesyddol ein pentref;

• Gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys, Cyngor Cymuned Cilmeri a Cadw i helpu â gwaith cynnal a chadw’r gofeb enwog, er mwyn i ymwelwyr allu mwynhau ein safle sydd o arwyddocâd cenedlaethol a hanesyddol mewn amgylchedd diogel a phriodol;

• Helpu i ddod o hyd i adnoddau i weithredu, gam wrth gam, Cynllun Dehongli Lloyd Brown (Ionawr 2013) a gomisiynwyd gan Cadw.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae’r cynllun dehongli yn rhoi sylw i’r ffaith mai Llywelyn oedd Tywysog brodorol olaf Cymru i farw ar faes y gad, gan nodi diwedd llinach bwerus Gwynedd, a oedd yn bwysig wrth feithrin ymdeimlad o genedligrwydd a hunaniaeth Gymreig.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn ysgrifennu at y deisebwyr i rannu cynnig Cyngor Sir Powys i drosglwyddo asedau i'r gofeb; ac o ganlyniad chau'r ddeiseb. 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/09/2014.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014