P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm
P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm
Gofynnwn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth
Cymru adolygu pa mor addas yw Noah’s Ark Zoo Farm ar gyfer ymweliadau gan
ysgolion o Gymru. Yn ein barn ni, mae’r sŵ yn anaddas oherwydd:
1. Mae’n tanseilio’r ddealltwriaeth o wyddoniaeth ac yn
gwrth-ddweud y cwricwlwm cenedlaethol. 2. Cafodd y sŵ ei diarddel o gorff
y diwydiant sŵau, BIAZA, yn 2009.
Mae mynd ar dripiau ysgol yn rhan bwysig o broses ddysgu ein
plant, gan eu helpu i gael profiad ymarferol o’r byd o’u cwmpas. Mae athrawon a
rhieni yn gwerthfawrogi hyn, ac yn rhoi llawer o amser ac ymdrech i sicrhau bod
y tripiau a drefnir ganddynt yn cefnogi proses ddysgu’r plant, a’u bod yn
ddiogel. Er mwyn gwneud hyn, maent yn dibynnu ar ganllawiau a gwybodaeth.
Gofynnwn ichi ymchwilio i Noah’s Ark Zoo Farm ar unwaith a sicrhau bod pob
ysgol yn ymwybodol o ganfyddiadau’r ymchwiliad.
Gwybodaeth
ychwanegol
1 The Department for Education 2011 - Free Schools FAQs –
C
urriculum:
“We would expect to see evolution and its foundation
topics fully included in any science curriculum. We do not expect creationism,
intelligent design and similar ideas to be taught as valid scientific theories
in any state funded school” http://www.education.gov.uk/a0075656/free-schools-faqs-curriculum#faq5;
https://humanism.org.uk/2014/02/04/alice-roberts-bha-complain-michael-gove-noahs-ark-zoo-farms-quality-badge-breaching-creationism-policy/;
http://www.theguardian.com/world/2013/dec/08/wont-go-back-to-creationist-zoo-bristol
2 BIAZA (2009):
‘Council believes that the behaviour of NAZF has brought
the association into disrepute’
™http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/somerset/8391779.stm
Prif
ddeisebydd Jane
Henderson
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 220
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014