Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig

Ymchwiliad i gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Gynhyrchu Organig a Labelu Cynhyrchion Organig.

 

Diben yr ymchwiliad hwn oedd ystyried yr effeithiau posibl ar Gymru yn wyneb cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig a'r cynigion a wnaed yn y Cynllun Gweithredu ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.

 

Cylch gorchwyl

 

Fe wnaeth yr ymchwiliad:

 

  • Ystyried effeithiau posibl y cynigion ar y sector organig yng Nghymru;
  • Ystyried yr argymhellion ar gyfer newidiadau i'r cynigion cyfreithiol a gyhoeddwyd; a
  • Gweithredu fel fforwm i randdeiliaid yng Nghymru gymryd rhan yn y drafodaeth ar ddyfodol cynhyrchu organig yn yr UE.

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y gwnaethom ddefnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2014

Angen Penderfyniad: 25 Awst 2014 Yn ôl Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau

Ymgynghoriadau