P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer cyllid i’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol a ariannwyd yn flaenorol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yng Nghymru, neu brosiect tebyg newydd sydd â’r un gwerthoedd â’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol.  Mae’r prosiect yn hanfodol i helpu pobl ifanc rhwng 14 a 19 oed sydd ag anableddau dysgu neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig i feithrin sgiliau bywyd a bod yn annibynnol.

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae’r prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol yn caniatáu i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed sydd ag anabledd dysgu neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol wrth iddynt symud i addysg golegol yn ogystal â’u galluogi hwy i symud i’r byd gwaith a datblygu sgiliau bywyd sylfaenol sy’n hollbwysig i’w hannibyniaeth.  Mae’r prosiect wedi helpu dros 1700 o oedolion ifanc sydd ag anableddau dysgu neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac mae wedi helpu i hyfforddi dros 1000 o fentoriaid cymheiriaid gyda’r bwriad o wella integreiddio rhwng disgyblion ysgolion prif ffrwd a’r rheini sydd mewn unedau anghenion arbennig.  Mae gwerthoedd y prosiect hwn yn hanfodol i’r bobl ifanc hyn a all fod ag ychydig iawn o ymwybyddiaeth, os o gwbl, o hylendid personol ac ati ar y dechrau, ac sydd, erbyn y diwedd, yn ymwybodol o’u hylendid personol ac wedi cwblhau cymwysterau Agored Cymru na fyddent wedi gallu eu sicrhau fel arall.

Prif ddeisebydd   Aled Davies

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Gorffennaf 2014

Nifer y llofnodion: 25 – Casglodd ddeiseb gysylltiedig 226 o lofnodion.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/07/2014