P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol

Wedi'i gwblhau

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r canllawiau i Awdurdodau Lleol o ran penaethiaid ysgolion yn gallu awdurdodi absenoldeb ar gyfer gwyliau teuluol yn ystod y tymor. Mae llawer o deuluoedd o gefndiroedd tlawd, na allant fforddio mynd ar wyliau yn ystod y tymor, oherwydd bod gwyliau tua 60% yn ddrutach yn ystod y cyfnod gwyliau. Hefyd, mae llawer o deuluoedd lle mae’r rhieni yn gweithio yn methu cymryd amser i ffwrdd yn ystod gwyliau’r ysgol. Gall gwyliau fod yn hynod o addysgiadol, a rhoi ymwybyddiaeth i’r plant o’r byd y maent yn byw ynddo.

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/04/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn a chytunodd i gau’r ddwy ddeiseb yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn adolygu canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion ac mae’n bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol, a’r ffaith bod y Llywodraeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol o’r blaen i ailadrodd pa mor bwysig yw bod penaethiaid yn gallu defnyddio disgresiwn o ran ceisiadau am absenoldebau yn ystod y tymor.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/07/2014.

 

Prif ddeisebydd   Bethany Walpole-Wroe

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Gorffennaf 2014

Nifer y llofnodion: 1008 - – Casglodd ddeiseb gysylltiedig dros10,300 o lofnodion.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/07/2014