P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y ffordd y caiff Anemia Niweidiol ei drin, o’r fformat bresennol o drin pawb yn yr un ffordd, at drefn sy’n seiliedig ar anghenion y claf unigol, a lle y caiff y claf ddewis sut y mae am gael ei therapi adfer B12, gan gynnwys pigiadau a gaiff eu rhoi gan y claf ei hun.

Gwybodaeth ychwanegol: Y driniaeth a roddir yn arferol ar gyfer Anemia Niweidiol yw presgripsiwn o un pigiad bob tri mis. I nifer fawr o gleifion, mae hyn yn gwbl annigonol. Fe wnaiff rhai meddygon roi presgripsiwn am bigiadau mwy aml, ond pan na wneir hyn, mae cleifion yn cael gafael ar bigiadau B12 o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys y rhyngrwyd, ac mae hynny’n anfoddhaol. Bydd y cleifion wedyn yn rhoi’r pigiad iddynt eu hunain heb unrhyw hyfforddiant, a heb ddefnyddio clytiau sychu gwrthseptig na biniau offer miniog cloadwy..

Prif ddeisebydd   The Pernicious Anaemia Society

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 91

Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23 Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda – Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2014

Dogfennau