P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd,

P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd,

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i gynnal y profion cenedlaethol ar gyfer plant ysgolion cynradd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol: Rwy’n credu bod y Profion Cenedlaethol ar gyfer plant ysgolion cynradd yn achosi straen a gofid dianghenraid i blant ifanc.  Dylai plant deimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn yr ysgol a bod ag agwedd gadarnhaol tuag ati, nid teimlo dan bwysau a phoeni am wneud yn dda mewn amgylchedd arholiad afrealistig sydd ond yn gwobrwyo’r rhai sy’n cyflawni’n dda dan amodau o’r fath ac yn cosbi’r rhai nad ydynt yn gwneud cystal.  Mae gosod plant yn erbyn ei gilydd a’u gorfodi i ystyried canlyniadau ‘methiant’, a hwythau mor ifanc, yn greulon.  Mae athrawon proffesiynol hefyd yn condemnio’r Profion Cenedlaethol gan ddweud eu bod yn aneffeithiol fel ffordd o gymell a mesur ac nad ydynt yn gweithio o ran pennu potensial plant ifanc a’u gwybodaeth gyfredol.

Prif ddeisebydd   Alexander Roberts

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 15 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 123

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2014