P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru
P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru
Gyda dadreoleiddio a
chynnydd enfawr yn y ffioedd dysgu, mae gwendidau myfyrwyr a’u hawliau fel
defnyddwyr wedi methu â chadw cyfuwch â masnacheiddio Sefydliadau Addysg Uwch
fel Cwmnïau Elusennol. Mae benthyciadau i fyfyrwyr ymysg yr ymrwymiadau
ariannol mwyaf sy’n wynebu pobl ifanc, a gallent bara am oes, sy’n gwneud
myfyrwyr yn agored i niwed. Er bod Sefydliadau Addysg Uwch yn derbyn arian
cyhoeddus, nid ydynt yn y sector cyhoeddus; maent yn annibynnol, ac ni ellir
cyhuddo staff o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Dylai safonau gyfateb i’r rhai
sy’n cael eu rhoi ar waith mewn sefydliadau a gwasanaethau eraill i ddarparu
cydbwysedd rhwng annibyniaeth ac atebolrwydd. Dylai Llywodraeth Cymru gynnal y
gyfraith ac egluro ei hawl gyfreithiol i godi llais yn erbyn Prifysgolion sy’n
methu fel y gellir osgoi ymyrraeth wleidyddol neu gelu camweinyddu; ni ddylai
unrhyw sefydliad nad yw’n cydymffurfio â’i erthyglau llywodraethu neu’i Siartr
Frenhinol dderbyn arian cyhoeddus na chael masnachu.
Prif
ddeisebydd: Trevor Mayes
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 01 Gorffennaf 2014
Nifer
y llofnodion: 18
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2014