P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden

P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried troi’r cannoedd o filltiroedd o hen reilffyrdd segur (a gafodd eu cau o dan Beeching) yn llwybrau beicio/cerdded o safon uchel. Mae’r rheilffyrdd hyn i’w cael ym mhob cwr o Gymru a byddai’r cynllun hwn: yn annog gweithgareddau iach a ffyrdd iach o fyw; yn cynnig llwybr teithio diogel i’r rhai sy’n chwilio am ffyrdd gwyrdd o fyw; yn cynnig llwybr beicio diogel i blant ac yn eu hannog i’w defnyddio i deithio i’r ysgol, clybiau ac ati; lleihau traffig ar ein ffyrdd; hybu twristiaeth yng Nghymru, yn arbennig o ran beicwyr a cherddwyr; yn hwyluso sefydlu nifer fawr o fusnesau bach, amrywiol ar hyd y llwybrau, fel siopau, darpariaeth gwely a brecwast ac ati. Bydd hyn o fudd i ardaloedd gwledig. Mae’r lles posibl i iechyd pobl Cymru a’i heconomi yn ddiderfyn a gellir deall yr enillion a geir o’r buddsoddiad hwn cyn iddo ddechrau, hyd yn oed.

Prif ddeisebydd:  Albert Fox

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 14

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014