P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio polisi swyddogol sy’n gwahardd sefydliadau, ymgynghorwyr ac elusennau nad ydynt yn dryloyw rhag gweithredu o fewn i Lywodraeth Cymru, y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gyffredinol; o ran hyfforddiant mewnol neu fathau eraill o hyfforddiant. Os bydd unrhyw sefydliadau hyfforddiant, ymgynghorwyr ac elusennau nad ydynt yn atebol yn defnyddio arian cyhoeddus, dylid eu hatal rhag gwneud hynny os nad ydynt yn gwbl dryloyw ac yn gallu rhoi datgeliad llawn o’r hyn y mae eu cyrsiau yn eu cynnwys a’r gost i drethdalwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol. Dylai rhestr lawn o raglenni hyfforddiant o’r fath gynnwys rhai sydd wediu targedu at ddatblygu gyrfa a datblygiad personol, yn ogystal â rhai nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â swydd yr unigolyn. Byddai polisi datgelu llawn o’r fath ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dryloywder a bod yn agored.

 

Prif ddeisebydd:  Cymru Sofren / Sovereign Wales

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  13 Mai 2014

 

Nifer y llofnodion: 10

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2014