P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailgyflwyno’r cyllid sy’n ofynnol ar gyfer Gwobrau CREST yng Nghymru, ac rydym am i’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol gydnabod gwerth Gwobrau CREST i addysg gynradd ac uwchradd, a bod y cyllid sy’n ofynnol ar gyfer Gwobrau CREST yn parhau.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

 

Cynllun grant sy’n seiliedig ar brosiectau yw Gwobrau CREST, ar gyfer gwaith ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (pynciau STEM). Mae’n cysylltu myfyrwyr â dysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm. Y llynedd, roedd 30,000 wedi cymryd rhan yn y cynllun Gwobrau CREST yn y DU, gan gynnig cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 5 ac 19 oed ymchwilio i brosiectau yn y byd o’u cwmpas mewn dull cyffrous. Rhoddwyd dros 10% o Wobrau’r DU i ddisgyblion yng Nghymru. Mae llwyddiant y cynnydd yn nifer y Gwobrau CREST yng Nghymru wedi’i gyflawni gyda chyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru (yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol) i gydgysylltu a chynyddu’r gweithgareddau yn ysgolion Cymru. Mae’r arian hwn wedi golygu bod modd cynnig y cynllun yn ddwyieithog, cyfrannu at ffi gofrestru’r disgyblion, rhoi grantiau, a darparu strwythurau ategol eraill drwy’r cynllun Gweld Gwyddoniaeth. Mae Gwobrau CREST wedi dod â chryn fudd i ysgolion, a bydd y disgyblion a’r staff addysgu, fel ei gilydd, yn teimlo’r golled yn uniongyrchol pe byddai’r cyllid yn cael ei dynnu’n ôl. Mae Gwobrau CREST yn cael eu cydnabod gan holl Brifysgolion y DU, ac maent yn darparu tystiolaeth gadarn o ddata cyd-destunol.

 

Prif ddeisebydd: See Science - British Science Association

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 21 Ionawr 2014

 

Nifer y llofnodion: 210

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2014