P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni or farn y dylai Mynwy gael y ddarpariaeth ambiwlans briodol. Gan fod disgwyl i boblogaeth Mynwy gynyddu, a bod Uned Mân Anafiadau Monnow Vale wedi caun ddiweddar, bydd rhagor o alw ar y gwasanaeth ambiwlans.

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Rydym yn gofyn i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad ir gwasanaeth ambiwlans yng nghefn gwlad Cymru. Byddem yn annog y Pwyllgor i ymchwilio ir problemau penodol syn bodoli ym Mynwy a pha effaith gafodd caur Uned Mân Anafiadau yn Monnow Vale ar y gwasanaeth ambiwlans.

 

Llywodraeth Cymru:

Rydym yn annog y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddefnyddioi phwerau iw gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddarparu gwasanaeth ambiwlans o safon uchel ledled Cymru ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Mynwy.

 

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

Rydym yn galw ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wellar ddarpariaeth ym Mynwy mewn termau real, gydag uned dibyniaeth fawr a/neu ambiwlans yn nhref Mynwy.

 

Prif ddeisebydd:

Mathew Davies

 

Nifer y deisebwyr:

Tua 450

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried