P-04-666 Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol.

P-04-666 Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol.

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Royston Jones ar ar ôl casglu 144 Llofnod

 

Geiriad y ddeiseb

Yn y blynyddoedd diwethaf, cafwyd tuedd ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru lle gwelwyd swyddogion anetholedig yn cymryd rheolaeth o awdurdodau lleol i bob pwrpas.

Yn ddieithriad, mae hyn yn digwydd pan fo grŵp bach o gynghorwyr yn cytuno i ddangos teyrngarwch i uwch swyddogion yn hytrach nag i'r cyngor y cawsant eu hethol iddo a'r bobl sy'n byw yn yr ardal leol.

Mae'n ddigwyddiad sy'n arwain at nifer o bryderon.

1. Pan fydd uwch swyddogion yn arfer pŵer a chynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu, i bob pwrpas, o'r broses gwneud penderfyniadau yna, yn amlwg, mae'r broses ddemocrataidd yn cael ei thanseilio ac nid oes atebolrwydd am yr hyn a wneir.

2. Os yw'r rhan fwyaf o gynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu o unrhyw rôl heb law am rai arwynebol, mae'n codi'r cwestiwn pam mae angen i gynghorau, sy'n brin o arian, dalu cymaint, mewn ffyrdd amrywiol, i eunuchiaid gwleidyddol.

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn ymwybodol o'r bygythiad hwn i ddemocratiaeth leol, ac os daw'n amlwg bod uwch swyddogion yn dylanwadu mewn ffordd amhriodol ac annemocrataidd ar drefniadau rheoli unrhyw awdurdod lleol, i rybuddio'r awdurdod hwnnw'n gyhoeddus mai'r cynrychiolwyr etholedig yn unig sydd â'r pŵer i wneud penderfyniadau, ac os caiff y fath rybudd ei anwybyddu, i wneud yr awdurdod hwnnw'n destun mesurau arbennig.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Ni waeth beth yw maint eu cyflogau gormodol na pha gymwysterau sydd ganddynt, cyflogeion y cyngor a gweision yr etholwyr a'r boblogaeth ehangach yw uwch swyddogion llywodraeth leol o hyd.  Pan fyddant yn tanseilio democratiaeth drwy gymryd rheolaeth dros yr awdurdodau lleol sy'n eu cyflogi, mae hynny'n annerbyniol ac yn beryglus.

Ac eto, dyma'r union sefyllfa a welir mewn nifer o'n hawdurdodau lleol, ond, am resymau y gŵyr hi orau beth ydynt, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r sefyllfa, er bod y broblem o ran uchafiaeth swyddogion wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

• Dwyfor Meirionydd

• Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/01/2016