P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach

Rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri £26 miliwn o'r cyllid ar gyfer Addysg Bellach yn y flwyddyn 2015/16 ac yn cydnabod bod y toriad o 8 y cant i gyllideb Cymru, a gyflwynwyd gan San Steffan, wedi creu heriau ariannol i Gymru. Fodd bynnag, nid ydym yn deall penderfyniadau Llywodraeth Cymru, yn dilyn hynny, i ddyrannu'r arian o San Steffan mewn ffordd a fydd yn arwain at galedi mawr i aelod allweddol o'r 'Teulu Addysg' yng Nghymru.

Mae colegau wedi ymdopi'n rhagorol â sawl blwyddyn yn olynol o doriadau cyllid ac ni allwn weld sut y gallant barhau i gyflawni'r cylch gwaith a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi polisi Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n fwy ar gyfraniadau cyflogwyr er mwyn ariannu hyfforddiant cyflogeion, ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hynny'n ddigon i lenwi'r bwlch yn sgil toriadau'r Llywodraeth.

At hynny, bydd y toriad o 50% i gyllid cyrsiau rhan-amser yn gwneud difrod sylweddol i ddarpariaeth addysg bellach gan adael miloedd o oedolion heb fynediad at gyfleoedd i wella eu haddysg neu ailhyfforddi. Bydd hefyd yn peryglu cannoedd o swyddi addysg bellach.

Mae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru yn sgil toriadau cyllid blaenorol a chyfres o fentrau uno, ond maent bellach wedi cyrraedd pen eu tennyn.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhoi'r toriadau hyn ar waith ac i fuddsoddi'n briodol mewn cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) Cymru yn pryderu:

 * Y bydd cyflogwyr yn amharod i lenwi’r bwlch a adawyd yn sgîl tynnu cyllid Llywodraeth Cymru, neu’n methu â llenwi’r bwlch.

 * Bydd oedolion yn cael eu cyfyngu i hyfforddiant a gaiff ei ystyried yn addas gan gyflogwyr.

* Bydd oedolion sydd mewn swyddi anfoddhaol sy’n talu cyflog isel yn methu â chael mynediad at yr addysg y mae ei hangen arnynt i wella eu cyfleoedd gwaith yn rhywle arall.

* Bydd toriadau o ran cyllid yn cyfyngu’n ddifrifol ar y dewisiadau sydd ar gael i oedolion.

* Dilëeir y cyfleoedd i wella eu cyfleoedd bywyd ar gyfer llawer o oedolion a’u teuluoedd, ac mae hynny’n wrthgynhyrchiol o ran mynd i’r afael â threchu tlodi a gwella’r economi yng Nghymru.

* Effeithir yn niweidiol ar ansawdd y ddarpariaeth sydd ar ôl, oherwydd bydd llai o staff, bydd maint y dosbarthiadau’n fwy a bydd llai o amser i gynnal y cyrsiau.

 

Prif ddeisebydd: UCU Wales 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 14 Gorffennaf 2015

Nifer y deisebwyr: 2,047

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015