P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg
P-04-645 Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg
Cyflwynir y ddeiseb hon i achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg.
Mae rhieni plant sy'n rhan o raglen Dechrau'n Deg, neu
rieni sydd â phlant a fydd yn dod i'r oedran i gymryd rhan yn y rhaglen yn fuan
wedi cael llythyrau sy'n nodi y bydd Dechrau'n Deg yn cael ei ddileu o'n
cymuned ym mis Gorffennaf 2015.
Pam y dylai ein plant golli'r cyfle hwn? Mae Dechrau'n
Deg yn gam pwysig ymlaen ar gyfer plant bach, i'w gosod ar y ris gyntaf yn eu
haddysg ac yn barod i ddechrau yn yr ysgol. Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir i
bobl sy'n byw mewn 'ardaloedd o amddifadedd', a dyna ydym ni. Eto, mae'r
gwasanaeth yn cael ei gymryd oddi arnom. Mae hwn yn gam annoeth.
.
Prif
ddeisebydd: Sophie-Kate Reacord
Ystyriwyd
gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 30 Mehefin 2015
Nifer
y llofnod: 148 llofnod ar lein a 343 llofnod bapur. Cyfanswm = 491
llofnod
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/06/2015