P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
'Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Bwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i bleidleisio o blaid
y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) unwaith y caiff ei gyflwyno gerbron y
Cynulliad.'
Gwybodaeth
ychwanegol
O ystyried adroddiad Williams, pan fydd cynghorau'n uno,
bydd unrhyw ofalwyr maeth sydd â lle, ar gael i awdurdodau cyffiniol os byddant
wedi cofrestru i wneud hynny. Byddai'r arbedion cychwynnol o weithredu system
gofrestru ddeuol gydag awdurdodau lleol cyn gweithredu'r cynllun uno yn torri
costau ymhellach, ac yn arwain at ofal sy'n gost-effeithiol ac sydd o ansawdd
uchel i blant sy'n cael eu cyflwyno i'r y system gofal ac sy'n derbyn gofal. Er
enghraifft, pe bai Blaenau Gwent a Thorfaen yn gweithredu system ddeuol o
gofrestru gofalwyr maeth, byddai hynny'n dyblu nifer y gofalwyr maeth a fyddai
ar gael i'w paru gyda phlentyn sy'n cael ei gyflwyno i'r system derbyn gofal.
(Mae sgiliau, argaeledd, lleoliadau presennol, a'r gallu i gludo plentyn i'r
ysgol i gyd yn rhan o'r broses baru). Felly, byddai hynny'n dileu'r angen i
ddefnyddio asiantaethau maethu annibynnol, sydd yn llawer drutach
Prif
ddeisebydd: Richard Jones MBE
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
Nifer
y llofnodion: 1,579 llofnod
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2015